LISTSERV mailing list manager LISTSERV 15.5

Help for WELSH-L Archives


WELSH-L Archives

WELSH-L Archives


View:

Next Message | Previous Message
Next in Topic | Previous in Topic
Next by Same Author | Previous by Same Author
Chronologically | Most Recent First
Proportional Font | Monospaced Font

Options:

Join or Leave WELSH-L
Reply | Post New Message
Search Archives


Subject:

Re: Geiriaduron...

From:

sycharth <[log in to unmask]>

Reply-To:

WELSH Language Bulletin Board <[log in to unmask]>

Date:

Sun, 19 Dec 1999 00:24:58 -0800

Content-Type:

text/plain

Parts/Attachments:

Parts/Attachments

text/plain (61 lines)


Su'mai Geraint a phawb

1. Mae'r broblem y mae Geraint wedi ei adnabod yn un real iawn ond effemeral
hefyd, diolch byth. Mae HTML wastad wedi bod yn anhyblyg iawn, er enghraifft
tydi DHTML a sgwenwyd i Netscape Navigator ddim bob tro'n gweithio gyda
phorwr megis IE gan fod y fersiynau'n anghymarus. Mae XML (eXtensible Markup
Language) yn trechu'r problemau hyn. Trowch at www.w3.org i weld ffrwyth
llafur W3C (y 'pwyllgor' sy'n cydweithio i greu iaith ddigidol y dyfodol).

Gallwch flasu peth o'r ffrwyth yma o berllan SoftQuad (cyhoeddwyr HotMetal
Pro, fe gofiwch), sef rhaglen i olygu XML: "Xmetal".

2. Yn groes i'r honiadau, tydi Front Page 2000 ddim yn adnabod pob dolen
wallus; yn aml mae'n dolenu a thudalen leol ar eich disg galed yn hytrach
na'n fyw o'r syrfyr i'r dudalen gywir, gan eich twyllo i gredu fod y ddolen
yn berffaith. Mi fydd XML yn achubiaeth dwi'n siwr ond oes na raglen a all
wiro'r dolenau'n well ee beth ydy barn y grwp am Dreamweaver o ran y math
hwn o ddiffyg HTMLyddol ayb?

Yn serchus iawn atoch y diawled

robin llwyd ab owain
"Un byd, un duw ac un 'n'"
www.cymruwales.com



----- Original Message -----
From: Geraint Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, December 18, 1999 3:35 PM
Subject: Re: Geiriaduron...


> Linda Sherman <[log in to unmask]> ddudodd:
> >Dwedodd Lisa Siop Oriel:
> >
> >> Mae gan Cyngor Llyfrau Cymru Safle Gwe, sef:
> >>
> >> gwales.com.
> >
> >Dyw'r URL 'na ddim yn gweithio.
>
> ac wedyn Lisa Jones <[log in to unmask]>:
> > Mae'n gweithio'n iawn i fi!!
>
> Mae hynny am fod Lisa Jones yn defnyddio meddalwedd y fall sy'n
> ceisio "cywiro" pob math o "gamgymeriadau", er engraifft anghofio
> teipio'r "http://www." ar y cychwyn a'r "/" ar y diwedd, ac felly
> yn gwneud hi'n amhosib i wybod yn iawn sut i ddweud dim wrth
> rywun arall sydd ddim yn defnyddio meddalwedd y fall. Fel hyn
> mae hi:
> http://www.gwales.com/
>
> Mae meddalwedd y fall hefyd yn gosod y neges atebir ar y gwaelod,
> gan wneud pethau'n anos i weddill y bydysawd ddilyn. Ac weithiau
> mae meddalwedd y fall yn danfon ail gopi o neges mewn HTML. Neu
> llwyth o fanyniol personol mewn bwndel bach anhylaw ar y diwedd.
>
> Boed diolch i Bill; felly mae hi yn y byd sydd ohoni.
>


Back to: Top of Message | Previous Page | Main WELSH-L Page

Permalink



LISTSERV.HEANET.IE

CataList Email List Search Powered by the LISTSERV Email List Manager